Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6 Hydref 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


293(v6)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

</AI1>

 

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

 

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(15 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

 

<AI4>

3       Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020

(45 munud)

</AI4>

 

<AI5>

4       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau

(45 munud)

</AI5>

 

<AI6>

5       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol

(45 munud)

 

</AI6>

<AI7>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 6-9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)

 

</AI7>

<AI8>

6       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

NDM7412 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI8>

<AI9>

7       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020

NDM7409 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI9>

<AI10>

8       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020

NDM7411 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

</AI10>

<AI11>

9       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020

NDM7410 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI11>

 

<AI12>

10    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd

(30 munud)

NDM7408 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pysgodfeydd i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020 a 16 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Pysgodfeydd (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig:

Ymateb y Llywodraeth i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 2)

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 2)

Ymateb y Llywodraeth i’r Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Llythyr Cadeirydd y Pwyllgor i’r Gweinidog

Ymateb y Llywodraeth i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 2)

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 2)

Ymateb y Llywodraeth i’r Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

</AI12>

 

<AI13>

11    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

(15 munud)

NDM7407 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Y Bil Diogelwch Tân (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

</AI13>

 

<AI14>

12    Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020

(15 munud)

NDM7413 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

 

</AI14>

<AI15>

13    Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol

(60 munud)

NDM7414 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi yn llwyr

a) y frwydr fyd-eang i gael gwared â hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol; a

b)  egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).

2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar ddatblygiad datganiad trawsbleidiol ar gyfer Cymru sy’n ymgorffori egwyddorion CERD.

3. Yn croesawu gwaith diwyd y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a gydgadeirir gan y Barnwr Ray Singh a’r Dr Heather Payne, yr Is-grŵp Asesu Risg a gadeirir gan yr Athro Keshav Singhal a’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ac yn galw am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod argymhellion Adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu’n llawn ac ar gyflymder.

4. Yn cydnabod yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)

Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog ar COVID-19: Adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol

Cyd-gyflwynwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Sian Gwenllian (Arfon)

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

</AI15>

 

<AI16>

14    Cyfnod pleidleisio

 

 

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Hydref 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>